• English
  • | Cymraeg
  • CONTACT US  
      CHANGE SIZE » A » A+ » A++  

    Supported Living Solutions - www.trimarcare.com

    Working for Trimar Care

    Gweithio i Trimar Care

    Crynodeb byr o’r swyddi sydd gennym yn Trimar Care

    Gweithiwr Cymorth - Byddwch yn gweithio mewn tîm sy’n rhoi cymorth o ddydd i ddydd i ddefnyddwyr gwasanaeth, er mwyn iddynt allu byw yn y gymuned, gwneud eu dewisiadau eu hunain, a chymryd rhan lawn ym mywyd cymuned ehangach.

    Uwch Weithiwr Cymorth - Byddwch yn goruchwylio a rheoli’r gwasanaeth yr ydych yn gyfrifol amdano, ac yn sicrhau bod y tîm gweithwyr yn darparu gwasanaeth o safon uchel ac yn cael eu cynorthwyo i’r eithaf gennych chi - y rheolwr llinell.

    Cydlynydd Gwasanaeth – Chi fydd yr arweinydd tîm ar gyfer nifer o wasanaethau.  Byddwch yn cynorthwyo i gefnogi a meithrin eich Uwch Weithwyr Cymorth yn eu dyletswyddau o ddydd i ddydd.  Byddwch hefyd yn rhoi cymorth iddynt ddarparu gwasanaethau i’n Defnyddwyr Gwasanaeth.

    Rheolwr Bro neu Ardal - Yn y swydd hon fe gewch y cyfle i roi pethau ar gychwyn ar gyfer y bobl y byddwn yn rhoi cymorth iddynt.  Byddwch yn cynorthwyo ein defnyddwyr gwasanaeth i wireddu eu gobeithion trwy reoli, adolygu a datblygu’r gwasanaeth a gânt gan Trimar Care.

    Staff y Brif Swyddfa - Mae ein tîm gweinyddu yn gweithio yn ein prif swyddfa yn Bootle.  Eu gwaith hwy yw darparu gwasanaethau cymorth gweinyddu a gwybodaeth arbenigol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, staff a’r rheolwyr eraill yn Trimar Care.  Mae hynny’n cynnwys Adnoddau Dynol, Hyfforddiant, Cyflogres, Iechyd a Diogelwch, a gwasanaeth gweinyddu cyffredinol.

    I gael manylion y swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd, cliciwch yma.

    Tel: 0151 922 0984 Fax: 0151 922 0991 Email: info@trimarcare.com