• English
  • | Cymraeg
  • CONTACT US  
      CHANGE SIZE » A » A+ » A++  

    Supported Living Solutions - www.trimarcare.com

    FAQs

      

    Cwestiynau Cyffredin

      

    Sut wyf i’n gwneud cais?

    Gallwch chi lawrlwytho pecyn cais oddi ar y wefan hon, neu gallwch ofyn am un trwy anfon e-bost at: vacancies@trimar.com Yna gallwch chi ddewis llenwi’r ffurflen gais yn electronig, neu ei hargraffu, cyn ei llenwi a’i hanfon atom trwy’r post.

     

    A fydd yn rhaid imi gael archwiliad cofnodion troseddol?

    Bydd yr holl swyddi a gynigir yn cael eu cynnig ar yr amod y bydd archwiliad y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cael ei gynnal - un uwch neu safonol,  yn dibynnu ar y swydd y gwnaethoch gais amdani.  Os oes gennych chi hanes troseddu, rydych chi’n gorfod dweud wrthym pan ydych chi’n gwneud cais.  Ni fydd hyn yn effeithio ar broses trefnu’r rhestr fer; fodd bynnag, byddwn yn gorfod rhoi ystyriaeth bwyllog iawn i unrhyw gollfarnau blaenorol oherwydd y math o swydd yr ydych wedi gwneud cais amdani a’r ddyletswydd gofal sydd gennym tuag at warchod ein defnyddwyr gwasanaeth sy’n agored i niwed.

    A fyddaf i’n gorfod aros am eirda cyn y gallaf roi cychwyn arni?

    Bydd yr holl swyddi’n cael eu cynnig ar yr amod y byddwn ni’n derbyn archwiliadau boddhaol cyn i’r bobl y byddwn yn eu penodi ddechrau gweithio.  Mae hyn yn cynnwys dau eirda boddhaol (dylai un ohonynt gynnwys eich cyflogwr diweddaraf), archwiliad y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chliriad meddygol.  Unwaith y byddwn ni wedi cael pob un o’r archwiliadau boddhaol, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn trefnu dyddiad dechrau.  Mae’r amser y bydd hyn yn ei gymryd yn gallu amrywio ond gall fod unrhyw beth rhwng tair a chwe wythnos.

    A fydd gofyn imi gael archwiliad meddygol?

    Bydd gofyn ichi lenwi holiadur meddygol gyda’ch ffurflen gais.  Yna, ar sail yr wybodaeth a roddwch, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a fyddwch chi’n cael eich anfon i’r Adran Iechyd Galwedigaethol er mwyn cael cliriad meddygol ychwanegol.

    Pryd fyddaf i’n dechrau gweithio?

    Mae’r holl swyddi a gynigir yn cael eu cynnig ar yr amod y byddwn ni’n cael archwiliadau boddhaol cyn i’r bobl y byddwn yn eu penodi ddechrau gweithio.  Felly byddwn ni’n gorfod sicrhau ein bod wedi derbyn yr holl archwiliadau boddhaol cyn inni gysylltu â chi er mwyn trefnu dyddiad dechrau.  Mae’r amser y bydd hyn yn ei gymryd yn gallu amrywio - ond gall fod unrhyw beth rhwng tair a chwe wythnos.

    Pryd fyddaf i’n cael fy nghyflog?

    Mae’r holl weithwyr yn cael eu talu ar 10fed diwrnod y mis am yr oriau gwirioneddol a weithiwyd yn y mis blaenorol (neu’n gynharach os yw’r diwrnod hwn yn digwydd bod ar benwythnos neu ŵyl y banc).

    Pa oriau sifft fyddaf i’n eu gweithio?

    Bydd hynny’n dibynnu ar ba dîm gweithwyr yr ydych chi ynddo, ond byddwch chi’n gweithio patrwm sifftiau, wedi’i gytuno, ac yn darparu cymorth 24 awr i’r defnyddiwr gwasanaeth.  Fe gewch ragor o fanylion eich oriau gwaith yn ystod y cyfarfod croeso a gewch gyda’ch rheolwr.

    Allaf i anfon fy CV atoch?

    Nid ydym yn derbyn CV fel ffurflen gais ar gyfer swyddi yn Trimar Care.  Mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr lenwi ffurflen gais - ac ateb pob adran ohoni.  Os hoffech, gallwch gynnwys copi o’ch CV gyda’ch ffurflen gais ac yna anfon eich cais at Trimar Care trwy anfon e-bost at : vacancies@trimar.com neu drwy argraffu’r ffurflen gais cyn ei llenwi a’i hanfon atom trwy’r post.

    Tel: 0151 922 0984 Fax: 0151 922 0991 Email: info@trimarcare.com