Benefits
Buddion
Mae ein pecyn buddion cystadleuol yn cynnwys:
- Cyflog cystadleuol;
- Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod o leiaf
- Y cyfle i ymuno â’n cynllun pensiwn cwmni gwirfoddol
Rydym hefyd yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r cydbwysedd rhwng gwaith/bywyd a gallwn gynnig amrywiaeth o oriau hyblyg a threfniadau gwaith sifft i gyd-fynd ag anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth.
Mae’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu yn cynnwys:
- Pecyn cyflawn hyfforddiant sefydlu
- Y cyfle i ennill cymwysterau NVQ ar sawl lefel
- Y cyfle i ddatblygu yn y cwmni
- Cael cymorth bob cam o’r ffordd
Yn ein barn ni mae ymbaratoi ein staff i fynd i’r afael â’r tasgau anodd a’r cyfleoedd a gânt gan y cleientiaid, yn rhan hanfodol bwysig o ddarparu gwasanaeth o safon uchel. A dyna pam, ar ôl ichi ymuno â Trimar Care, y cewch chi’r holl hyfforddiant a’r cymorth y bydd arnoch eu hangen er mwyn ymgymryd â swydd ym maes gofal a chymorth.
Trwy ennill safon Buddsoddwyr mewn Pobl, a dal gafael arni, rydym wedi dangos ein bod wedi ymrwymo i feithrin ein holl weithwyr. Yn ogystal â’r rhaglen sefydlu a hyfforddi sydd gennym, byddwn hefyd yn cynorthwyo ein staff i ennill cymwysterau NVQ mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - o’r safon y byddant hwy’n ei dymuno. Wrth wneud hynny byddwn yn eu cynorthwyo i wireddu eu gobeithion gyrfaol trwy gyfrwng hyfforddiant a chymorth wrth y gwaith.



